SL(6)327 – Y Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig

Cefndir a Diben

Mae’r Cwricwlwm i Gymru – y Cod Datganiadau o’r Hyn sy'n Bwysig (“y Cod”) yn rhoi dyletswydd statudol ar ysgolion a gynhelir a lleoliadau a ariennir i sicrhau bod eu gwaith o ddylunio a chynllunio cwricwlwm o dan Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys ac yn defnyddio’r cysyniadau allweddol (neu’r “datganiadau o’r hyn sy’n bwysig”) a nodir yn y Cod. Mae’n diweddaru ac yn disodli’r fersiwn wreiddiol o’r Cod a gyhoeddwyd ar 15 Tachwedd 2021 (“y Cod Gwreiddiol”).

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”) yn nodi’r chwe maes dysgu a phrofiad y mae’n rhaid i ysgolion a gynhelir a lleoliadau a ariennir seilio eu cwricwlwm arnynt, sef y celfyddydau mynegiannol; iechyd a lles; dyniaethau; ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu; mathemateg a rhifedd; a gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae’r Cod yn nodi 27 datganiad o’r hyn sy’n bwysig ar draws y chwe maes hynny. Rhaid i gwricwlwm a ddyluniwyd neu a fabwysiadwyd gan ysgolion a gynhelir a lleoliadau a ariennir, yn ogystal â’r dysgu ac addysgu cysylltiedig, gwmpasu’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig er mwyn bodloni gofynion y Ddeddf.

Gweithdrefn

Drafft Negyddol.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Cod gerbron y Senedd. Os, o fewn 40 diwrnod (ac eithrio diwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y gosodir y drafft, bydd y Senedd yn penderfynu peidio â chymeradwyo'r cod drafft, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dyroddi’r Cod.

Os na wneir penderfyniad o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r Cod (ar ffurf y drafft).

Gwaith craffu o dan Reol Sefydlog 21.7

Nodwyd y 3 phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7(i) mewn perthynas â’r Cod.

1.     Mae’r Memorandwm Esboniadol i’r Cod yn cadarnhau (ym mharagraff 2.1) bod Llywodraeth Cymru wrthi’n diweddaru (ar ffurf drafft) y Canllawiau Fframwaith Cwricwlwm i Gymru ar-lein tra’n aros i’r Cod diwygiedig gael ei gyhoeddi. Cyhoeddwyd y canllawiau’n wreiddiol ar 28 Ionawr 2020 gan ymgorffori’r 27 datganiad o’r hyn sy’n bwysig fel y nodir yn y Cod Gwreiddiol.

Mae’r Memorandwm yn nodi bod y Llywodraeth wrthi’n diweddaru’r canllawiau “er mwyn rhoi mwy o amser i ysgolion a lleoliadau ddefnyddio'r cyngor hwnnw i lywio eu gwaith o ddylunio a chynllunio’r cwricwlwm drwy gydol blwyddyn academaidd 2022/23”.

2.     Mae’r Memorandwm Esboniadol (ym mharagraff 2.1) yn nodi y caiff y Cod ei gyhoeddi ar 28 Ebrill 2023, yn ddarostyngedig i weithdrefn negyddol ddrafft y Senedd.

Fodd bynnag, gosodwyd y Cod gerbron y Senedd ar 20 Chwefror 2023. Heb gyfrif cyfnodau o fwy na phedwar diwrnod lle mae’r Senedd ar doriad, neu wedi’i hamserlennu i fod ar doriad, y dyddiad cynharaf y caniateir i’r Cod gael ei gyhoeddi yn unol â’r weithdrefn a nodir yn adran 76 o’r Ddeddf yw 29 Ebrill 2023.

3.     Mae’n ymddangos bod rhai anghysondebau rhwng fersiynau Cymraeg a Saesneg y Cod, ac maent wedi’u rhestru yn yr Atodiad i’r adroddiad hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r ail a’r trydydd pwynt adrodd.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

8 Mawrth 2023

 


Atodiad

1.     Ar dudalen 1 o’r testun Saesneg/tudalen 2 o’r testun Cymraeg, yn y cofnod ar gyfer “Dogfennau Cysylltiedig” ar waelod y dudalen, mae’r gair ar gyfer “guidance” ar goll o’r testun Cymraeg. Defnyddir “canllawiau” yn ddiweddarach ym mharagraff 1.5 o’r Cod fel y cyfieithiad Cymraeg ar gyfer “guidance” yn yr un cyd-destun.

 

2.     Yn nhroednodyn (2) ar gyfer y pwynt bwled olaf ym mharagraff 1.4, mae’r testun Saesneg yn cyfeirio at “children” a “pupil”. Fodd bynnag, mae’r testun Cymraeg cyfatebol yn cyfeirio at “dysgwyr” a “dysgwr”, sy’n golygu “learners” a “learner”.

 

3.     Ym mharagraff 1.5, mae cyfeiriad yn nhestun y ddwy iaith at “pages 4 to 15 of this Code” a “dudalennau 4 i 15 o’r Cod hwn”. Fodd bynnag, mae gwahaniaeth o ran rhifo’r testunau Cymraeg a Saesneg, gan fod tudalen 1 o’r testun Saesneg wedi’i rhifo fel tudalen 2 yn y testun Cymraeg. Felly, dylai’r testun Cymraeg ddweud “dudalennau 5 i 16 o’r Cod hwn” os yn dilyn rhifau’r tudalennau a geir ar hyn o bryd yn y testun Cymraeg.

 

4.     Ym mharagraff 2.1.2, yn y testun Cymraeg, yn y paragraff olaf, cyfieithwyd “challenges” fel “ysgogi” sy’n golygu “inspire”. Ym mhobman arall yn nhestun Cymraeg y Cod, mae wedi ei gyfieithu fel “herio” sy’n llythrennol yn golygu “to challenge”.

 

5.     Ym mharagraff 2.2.5, yn y testun Cymraeg, mae’r term “relationships” wedi’i gyfieithu fel “cydberthnasau” (gan gynnwys ffurfiau wedi’u treiglo) ym mhobman yn y paragraff hwnnw ac eithrio yn y frawddeg agoriadol. Felly, mae’n ymddangos yn anghyson defnyddio gair ychydig yn wahanol, sef “perthnasau”, yn y frawddeg honno ac yn awgrymu i ddarllenydd y testun Cymraeg fod iddo ystyr gwahanol.

 

6.     Ym mharagraff 2.3.4, yn yr ail baragraff, mae’r gair “pluralistic” yn y testun Saesneg wedi ei gyfieithu fel “lluosieithog” yn y testun Cymraeg. Fodd bynnag, mae “lluosieithog” yn golygu “plurilingual” ac fe’i defnyddir gyda’r ystyr hwnnw yn ddiweddarach ym mharagraffau 2.4.1 a 2.4.2 o’r testun Cymraeg.

 

7.     Ym mharagraff 2.3.4, ym mrawddeg olaf yr ail baragraff, nid yw “diverse” yn yr ymadrodd “diverse history, cultural heritage,….” wedi’i gynnwys yn y testun Cymraeg.

 

8.     Ym mharagraff 2.3.4, mae gwahaniaeth rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg yn y pedwerydd paragraff. Mae’r testun Saesneg yn cynnwys yr ymadrodd “in the learners’ own locality” tra mai ystyr llythrennol y testun Cymraeg cyfatebol, sef “yn lleol”, yw “locally”. Felly, gellid dadlau bod y pwyslais ar “in the learners’ own” ar goll o’r cyfieithiad oni bai ei fod yn cael ei weld fel rhywbeth a awgrymir. Mae yna hefyd ychydig o fannau eraill yn y testun Cymraeg lle mae'n ymddangos bod y gair “dysgwr” neu “learner” yn cael ei ystyried yn un a awgrymir yn hytrach na’i fod yn cael ei ddatgan yn benodol (fel ym mharagraff 2.5.4).

 

9.     Ym mharagraff 2.3.5, yn yr ail baragraff, yn y testun Cymraeg, mae gwall teipio yn y geiriau sy’n cyfateb i’r ymadrodd “in the UNCRC and UNCRPD”. Mae’r testun Cymraeg yn nodi “i dan” am y geiriau sy'n cyfateb i “in the” ac nid yw hynny’n gwneud synnwyr. Efallai mai’r bwriad oedd nodi “o dan” (sy’n cyfieithu’n llythrennol i “under the UNCRC and UNCRPD”).

 

10.  Ym mharagraff 2.5.1, yn y testun Cymraeg, mae ychydig o anghysondeb yn y cyfieithiad o “number system” a ddefnyddir yn y pennawd ac yn y paragraff cyntaf. Yn y pennawd, defnyddiwyd “system rif” fel y cyfieithiad, ond yn y paragraff cyntaf, defnyddiwyd “system rifo”.

 

11.  Ym mharagraff 2.6.1, mae gwahaniaeth rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Yn y paragraff cyntaf, mae geiriau agoriadol trydedd frawddeg y testun Saesneg yn datgan “Developing and testing models…”. Ond mae’r testun Cymraeg cyfatebol wedi ychwanegu’r ansoddair “defnyddiol”, sy’n golygu “useful” ar ôl “modelau” fel mai’r ystyr sy’n cael ei gyfleu yw “Developing and testing useful models….”.

 

12.  Ym mharagraff 2.6.1, mae’r testun Saesneg yn cyfeirio at “regarding the climate and nature emergency” ond mae’r testun Cymraeg wedi’i gyfieithu fel “ynghylch newid yn yr hinsawdd” sy’n golygu “regarding climate change”.

 

13.  Ym mharagraff 2.6.5, yn y frawddeg olaf, mae’r testun Saesneg yn cyfeirio at “responsible citizens of Wales and the world”. Fodd bynnag, mae’r geiriau “of Wales and the world” ar goll o’r testun Cymraeg.

 

14.  Ym mharagraff 2.6.6, yn y bedwaredd frawddeg, mae geiriau agoriadol y testun Saesneg yn datgan “To create and use digital technologies….” ond mae’r gair “digital” ar goll o’r testun Cymraeg.